Beicio
Mae amrywiaeth eang o lefydd i feicio yn ardal Y Bala a Phenllyn. Yma ceir ffyrdd tawel , teithiau heb geir arnynt ac elltydd heriol gyda bylchau dros mil o droedfeddi. Nodwch y gall y ffyrdd yma fod yn gul ac ar y dibyn!

Taith Mawddach: Dyma daith i feicwyr a cerddwyr yn unig sy’n rhedeg o Ddolgellau i Bermo(18km, 11 milltir rhyngddynt). Adnabyddir yr aber fel un o’r prydferthaf ym Mhrydain. Dilynir wely yr hen rheilffordd ac o ganlyniad mae’r daith ar y gwastad! Gellir llogi beic yn Nolgellau.
Taith Tegid: Caniateir beiciau a cerddwyr ar y daith . Defnyddir ochr y priffordd (A494) gyda golygfeydd da o Lyn Tegid. Bwriedir ymestyn y daith i Lanuwchllyn.
Ceir teithiau beicio o’r canolfannau canlynnol :
- Coed-y-Brenin: teithiau yn y goedwig, Caffi ,Llogi beic.
- Hiraethog: Nifer o deithiau i deuluoedd , Caffi , Llogi beic.
- Coed Llandegla : Taith i’r teulu , caffi ,llogi beic