Telerau ac Amodau
Terms and Conditions of using this website
Pam fod gennym Delerau ac Amodau?
- Diben y wefan hon a chyhoeddiadau Cymdeithas Twristiaeth y Bala a Phenllyn yw darparu gwybodaeth i gynorthwyo cynllunio a mwynhau eich ymweliad â'r Bala a Phenllyn.
- Mae'r wybodaeth ar y wefan hon a'r cyhoeddiadau yn dod o nifer o ffynonellau. Oherwydd y gall busnesau newid neu weithredu ar sail tymhorol mae'n bosibl i gyfran o'r cynnwys fod heb ei ddiweddaru.
- Mae gweithgareddau anturus yn cynnwys elfen o risg. Gall nifer o ffactorau effeithio ar ddiogelwch, e.e. Tywydd, profiad rhai fydd yn cymryd rhan a'r offer a ddefnyddir.
Argymhellion
- Sicrhewch eich bod yn gyfarwydd â Gwybodaeth Diogelwch ynglŷn â'ch gweithgaredd.
- Cyn cwblhau trefniadau llogi neu deithio argymhellir chwi i wirio manylion yn uniongyrchol gyda'r rhai fydd yn darparu'r gwasanaeth.
- Argymhellir eich bod yn gwirio addasrwydd gweithgaredd neu wasanaeth gan gynnwys agweddau diogelwch.
Argymhellir chwi i ddefnyddio darparwyr gwasanaethau sydd â safonau cydnabyddedig fel:-
- Llety wedi ei safoni gan “Visit Wales” neu gyffelyb. Mae'n ofynnol i letyau a restrir ar y wefan hon fod wedi eu graddoli.
- Mae'n ofynnol i ddarparwyr gweithgareddau i blant dan 18 oed fod o safon AALA a gymeradwywyd trwy gyfraith.
- Os ydych yn cynnal neu'n ymuno â gweithgaredd anturus argymhellir chwi i ystyried eich diogelwch eich hun a'ch grŵp. Os bydd amheuaeth sicrhewch gyngor proffesiynol.
- Gwnewch ddefnydd o ragolygon tywydd perthnasol i ardal eich
Sylwer
Ni fydd Cymdeithas Dwristiaeth y Bala a Phenllyn yn gyfrifol nac yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw gytundeb neu drefniant llogi a wneir cydrhwng defnyddwyr y wefan hon neu gyhoeddiadau eraill â darparwyr gwasanaethau neu weithgareddau.
Ni fydd Cymdeithas Dwristiaeth y Bala a Phenllyn yn gyfrifol am ganlyniadau yn deillio o ddefnyddio'r wybodaeth a ddarperir ar y wefan neu trwy ei chyhoeddiadau.
Caniateir copio lluniau a chynnwys y wefan hon i bwrpas cysylltu â'r wefan neu ei hyrwyddo. Rhaid gwneud cais ffurfiol am ddefnyddio'r cynnwys i unrhyw ddiben arall.