Site sponsored by Mid Wales Tourism

Promoted and supported by Visit Wales

Cymdeithas Dwristiaeth y Bala a Phenllyn


Mae Cymdeithas Dwristiaeth y Bala a Phenllyn yn bodoli i hyrwyddo twristiaeth yn ardal y Bala a Phenllyn drwy hysbysebu a rhoi cyhoeddusrwydd i dwristiaeth yn yr ardal, i ddatblygu a marchnata y Bala a Phenllyn fel ardal i ymweld â hi er budd yr economi leol.
Cychwynnwyd y Gymdeithas fel is-bwyllgor o Antur Penllyn, y corff oedd yn gyfrifol am ail-eni a diwygio’r ardal.  Mae croeso i unrhyw un sydd a diddordeb yn llwyddiant twristiaeth yn ardal y Bala a Phenllyn i ymuno a chefnogi  amcanion y Gymdeithas, nid yw perchnogaeth busnes twristiaeth yn angenrheidiol.
Trefniant gwirfoddol a di-elw yw’r Gymdeithas a’i nod yw gwasanaethu y gymuned leol a busnesau twristiaeth yr ardal.
Swyddogion y Gymdeithas yw:

  • Cadeirydd: Mel Williams
  • Ysgrifennydd: Katrina le Saux
  • Trysorydd & Gwefeistr: Ray Hind

Mae aelodau’r Gymdeithas yn cynnwys rhai sydd a chysylltiad â lletya, atyniadau, gweithgareddau, tai bwyta a siopau.
Mae’r Gymdeithas yn cyfarfod fel arfer yn fisol a mae croeso i’r sawl sydd a diddordeb fynychu cyfarfod cyn ymuno.
Mae’r Gymdeithas yn sefydlu is-bwyllgorau ar faterion neilltuol a datblygwyd y wefan hon gan yr is-bwyllgor marchnata.
Mae gan y Gymdeithas wefan arall VisitBala gyda gwybodaeth am letya, gweithgareddau a llawer mwy



Logos Logos Logosright