Diogelwch
Cadw’n ddiogel
Gwiriwyd manylion y llwybrau sy’n ymddangos ar y wefan yma gan Gymdeithas Twristiaeth y Bala a Phenllyn ond mae’n bosibl y bydd newidiadau yn cymryd lle.
Pan fydd gwybodaeth yn cael ei ddarparu gan fudiadau eraill mae’n bwysig eich bod yn cyfeirio at eu gwybodaeth diogelwch.
Mae’n hollbwysig eich bod yn gyfrifol am eich diogelwch eich hunain ac eich grŵp.
A wnewch chi os gwelwch yn dda:
Ystyried y rhybuddion a rhoddir ym mhob Taflen llwybr,
Dilyn y Côd Cefn Gwlad
Byddwch yn ymwybodol o’r wybodaeth ganlynol:
Mae’r cyngor canlynol yn addas yn gyffredinol i weithgareddau eraill yn yr awyr agored.
Datganiad gan Gyngor Mynydda Prydain (CMP):
Mae CMP yn cydnabod bod dringo, cerdded bryniau a mynydda yn weithgareddau sydd gydag elfen o berygl a all arwain i niwed personol neu farwolaeth. Dylai pobl sy’n cymryd rhan yn y gweithgareddau yma fod yn ymwybodol a derbyn y peryglon, a bod yn gyfrifol am eu gweithrediadau eu hunain.
Datganiad Undeb Canŵio Prydain (UCP):
“Mae canŵio a caiacio yn weithgareddau dwr sydd ag elfen o risg. Mae’n ddyletswydd ar y rhai sy'n cymryd rhan i fod yn ymwybodol o’r peryglon yma a’u derbyn. Maent yn gyfrifol am eu hymddygiad a’u hymrwymiad eu hunain”.
Datganiad gan Mountain Biking Safety (IMBA - International Mountain Biking Association)
Fel y rhan fwyaf o chwaraeon, mae peryglon ynghlwm a beicio mynydd. Ni allir gwaredu’r peryglon yma’n llwyr. Pryd bynnag a lle bynnag yr ydych chi’n dewis beicio, rydych yn gwneud hynny i berygl eich hunain. Mae’n hanfodol eich bod yn gwisgo helmed, ac yn beicio’n gyfrifol ar bob achlysur.
Cofiwch fod damweiniau difrifol yn gallu digwydd. Eich dyletswydd chi yw monitro’r perygl cyn i chi dechrau ar hyd unrhyw lwybr. Byddwch yn ymwybodol o’ch cyfyngiadau. Cymerwch eich amser i ddeall sut mae’r lliwiau Gradd Llwybrau yn berthnasol i’ch lefel sgil chi.
Mae’n hollbwysig eich bod yn dangos parch i ddiogelwch eraill sy’n defnyddio’r llwybr.
Mae sylwadau mwy manwl yn yr adran “Angenrheidion Llwybr”.
Gwybodaeth benodol i’r Llwybrau
Gyda phlant: Mae rhai o’r llwybrau wedi’i lleoli gyferbyn afonydd cyflym a all gynyddu mewn maint yn gyflym. Mae rhai rhannau yn ymylu/croesi ffyrdd prysur - mae’n rhaid gwarchod plant.
Llwybrau Ceir: Gan fod y ffyrdd yn gul, mae’n bwysig eich bod yn aros mewn mannau addas. Mewn ardaloedd mynyddig mae’n bosib fydd y ffyrdd yn serth, cul a gyda llethrau peryglus i’r ochr. Byddwch yn amyneddgar gydag eraill sy’n defnyddio’r llwybr, yn enwedig beicwyr a cherddwyr.
Llwybrau Beicio: Mewn ardaloedd mynyddig mae’n bosib fydd y ffyrdd yn serth, cul a gyda llethrau peryglus i’r ochr. Byddwch yn amyneddgar gydag eraill sydd yn defnyddio’r llwybr, yn enwedig cerddwyr. Mae’r llwybrau a ddisgrifir yn “Llwybrau beicio o amgylch Y Bala” wedi’i asesu gan Adran Priffyrdd Cyngor Gwynedd.
Llwybrau Cerdded: Mae llawer o’r teithiau wedi’i sefydlu ar wastatiroedd, ar lwybrau cyfarwydd. Serch hynny ceir rhai rhannau byr serth a rhai gyferbyn afonydd cyflym sy’n gallu cynyddu, a rhannau gyferbyn neu yn croesi ffyrdd prysur. Yn yr ardal ceir mynyddoedd sy’n agos i 3000 troedfedd o uchder, clogwyni a thir serth. Gall y tywydd newid yn gyflym.
- Llwybrau Canŵ
- Gwiriwch am arwyddion sy’n rhybuddio am bresenoldeb algae gwyrddlas
- Gwynt – Nodwch y cyfeiriad a’r cryfder
- Gwisgwch ddillad priodol a chymorth hynofedd (buoyancy aid)
- Mae’r llyn yn ddwfn ac yn oer, hyd yn oed yn yr haf.
- Mae’n bwysig i badlo mewn grŵp
- Byddwch yn ymwybodol o fadau hwylio
- Nid yw Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn darparu gwasanaeth achub.