Site sponsored by Mid Wales Tourism

Promoted and supported by Visit Wales

Bywyd gwyllt


Mae cyfoeth o fywyd gwyllt a phlanhigion i’w gweld yn Llyn Tegid a’r ardal gyfagos. Mae’r llyn yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI) ac yn safle gwlyptir Ramsar o bwysigrwydd rhyngwladol. Mae’r llyn ei hun yn gartref i 14 rhywogaeth o bysgod, yn cynnwys y Gwyniad, pysgodyn gwyn sy’n unigryw i Lyn Tegid. Mae glannau’r llyn yn gartref i’r falwen ludiog, a dyma’r unig fan y’i gwelir yn y Deyrnas Unedig. Mae dyfrgwn hefyd i’w gweld yn Llyn Tegid drwy gydol y flwyddyn. Mae’r isafonydd a’r nentydd hefyd yn cynnig digonedd o fwyd a chynefinoedd magu i’r dyfrgwn. Yr afon Tryweryn yw un o'r ychydig lefydd ym Mhrydain lle mae'r Misglod perl dŵr croyw iw canfod.Yma hefyd ceir y llysywen bendoll (Lampri).


lawrlwytho Bywyd Gwyllt y Bala a Phenllyn »


Logos Logos Logosright