Golygfeydd Gwych
Dyma deithiau dipyn hawsach na’r teithiau mynydd, maent yn cynnwys:
- Cerdded yn y bryniau o gwmpas y llyn - neu cerdded rhan o’r daith gan ddychwelyd ar y tren bach. Mae digon o ddewisiadau gan gynnwys llwybrau dethol y Parc Cenedlaethol.
- Taith o gwmpas tref y Bala ac ar hyd lan yr afon Dyfrdwy a’r afon Tryweryn. Daw’r daith yn ôl i’r dref wrth groesi tir amaethyddol a heibio’r ceudyllau.
- Gallwch ymweld a rhai o fryniau’r ardal - Moel y Garnedd, Moel Emoel neu Moel y Llan.
- Dilynwch llwybr y Ddyfrdwy i Landderfel gan alw heibio i dafarn y Bryntirion.
- O Ganolfan y Dŵr Gwyn gallwch ddilyn taith Tryweryn.Yma cewch wylio’r ceufadau a’r rafftio neu ymweld a’r caffi ar lan yr afon.