Taith Moel Y Llan - 1.5 hours (awr)
Golygfeydd Gwych
Amser: tua
1.5 hours (awr)

Trosolwg
Taith “yna ac yn ôl” i ben Moel y Llan (241 m, 800 tr) dros dir amaethyddol, ffriddoedd a rhannau byr ar ffyrdd tawel, o’r copa mae golygfa banoramig ardderchog o’r Bala, y Llyn, a mynyddoedd yr Aran, Arenig a’r Berwyn ac yn y pellter Cader Idris. Mae'r daith yn dechrau ac yn gorffen wrth Ganolfan Cywain , sydd ar gau ar hyn o bryd.
Argymhellir na ddylid fynd a chŵn ar dir amaethyddol lle mae gwartheg yn pori. Ar wahân i’r Bala dim lluniaeth na thoiledau.
‘Rydym yn ddiolchgar i Stad Rhiwlas am ganiatâd i fynd i gopa Moel y Llan, does dim hawl tramwy felly dilynwch y llwybr ddisgrifiwyd yma os gwelwch yn dda a dilynwch y Cod Cefn Gwlad.