Taith Mary Jones - 3 days
Teithiau TreftadaethGolygfeydd Gwych
Amser: tua
3 days
Pellter: tua 28 miles

Trosolwg
Wrth ddilyn y daith linol hon, byddwch yn cerdded am 28 milltir ac yn mwynhau tirwedd godidog yr hen sir Feirionnydd; byddwch yn cychwyn y daith mewn dyffryn hardd wrth droed Cadair Idris ac yn terfynu wrth lannau lyn Tegid. Byddwch yn cerdded ar lwybrau fydd â chaniatâd y tirfeddiannwr wedi ei sicrhau cyn mynd arnynt ac ar hyd rhai ffyrdd cyhoeddus; aiff y daith â chi dros fynydd-dir hardd a thrwy goetiroedd; ar hyd ffyrdd hamantaidd cefn gwlad a ffyrdd mwy, prysurach. Byddwch yn rhyfeddu at lynnoedd a mynyddoedd hyfryd o’ch cwmpas.
Yn 1800, cyffyrddwyd ' Thomas Charles gymaint gan hanes Mari Jones, a gerddodd i nôl Beibl o Lanfihangel-y-Pennant, fel y sefydlodd Gymdeithas y Beibl bedair blynedd yn ddiweddarach, i wneud yn siwr bod pobol a phlant Cymru a thu hwnt yn cael Beibl vn eu hiaith eu hunain.